Galwn ar wledydd, asiantaethau amlochrog, cyrchfannau a mentrau i ddatblygu canllawiau ymarferol tebyg ac annog awdurdodau cynllunio, busnesau twristiaeth, twristiaid a chymunedau lleol – i gymryd cyfrifoldeb dros gyflawni twristiaeth gynaliadwy, a chreu gwell llefydd i bobl fyw ynddynt ac i bobl ymweld â nhw. Mae twristiaeth gyfrifol yn ceisio cynyddu effeithiau cadarnhaol a lleihau rhai negyddol. Mae’n gofalu y cydymffurfir â’r holl safonau, cyfreithiau a rheoliadau perthnasol rhyngwladol a chenedlaethol.
Mae cyfrifoldeb, a’r fantais i’r farchnad a all gyd-fynd â hyn, yn golygu gwneud mwy na’r lleiafswm.
Rydym yn cydnabod bod adrodd ar gynnydd tuag at gyflawni targedau a meincnodau twristiaeth gyfrifol yn hanfodol i gyfanrwydd a hygrededd ein gwaith, a hynny mewn modd eglur y gellir ei archwilio. Y mae hefyd yn hanfodol i allu ein holl fudd-ddeiliaid i asesu cynnydd ac i alluogi defnyddwyr i ddewis yn effeithiol. Rydym yn ymrwymo i wneud ein cyfraniad i symud tuag at berthynas fwy cytbwys rhwng brodorion a gwesteion mewn cyrchfannau, a chreu gwell llefydd i gymunedau lleol a brodorion; a chydnabod y gellir cyflawni hyn yn unig drwy’r llywodraeth, cymunedau lleol a busnes yn cydweithio ar fentrau ymarferol mewn cyrchfannau.
Dyma fersiwn cryno o Ddatganiad Cape Town, sydd ar gael yn llawn.
Mae’r International Centre for Responsible Tourism (ICRT) yn dod â phawb sy’n cefnogi Egwyddorion Datganiad Cape Town ynghyd. Chwaer sefydliadau yw’r rhain mewn nifer o wledydd, ac eraill sy’n dilyn y syniad o ddefnyddio twristiaeth i wneud gwell llefydd i bobl fyw ynddynt a gwell llefydd i bobl ymweld â nhw. Mae’r ICRT yn ceisio annog a galluogi pobl i gymryd cyfrifoldeb dros wneud y newidiadau sydd eu hangen i wneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy, drwy ymchwilio i’r materion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd twristiaeth a hyrwyddo atebion wedi’u seilio ar ymchwil a gweithgarwch ysgolheigaidd.
Mae twristiaeth yn cyfrif am £6.2bn o GDP a 13.3% o gyfanswm economi Cymru (mwy nag unrhyw ranbarth arall ym Mhrydain) a rhagwelir y bydd yr economi ymwelwyr yn tyfu 20% eto erbyn 2020 (“The Economic Case for the Visitor Economy”, Deloitte & Oxford Economics, Mehefin 2010).
Ym Medi 2011, fe wnaeth Gweinidog Busnes Cymru, Edwina Hart, ddynodi twristiaeth fel sector blaenoriaethol ar gyfer economi Cymru, gan ddweud: “Drwy wneud [twristiaeth] yn sector flaenoriaethol, gallwn gryfhau’r hunaniaeth genedlaethol unigryw sydd gan Gymru ym Mhrydain ac yn genedlaethol fel lle i ymweld ag ef, buddsoddi ynddo ac fel lle i wneud busnes.”
Dywedodd Dan Clayton Jones, Cadeirydd Panel Cynghori’r Gweinidogion ar dwristiaeth yng Nghymru:
“Byddwn yn ceisio dod â dull gweithredu ffres i ddatblygu twristiaeth yng Nghymru. Mae arnom ni angen meddwl y tu allan i’r bocs a bod yn fentrus, a byddwn yn edrych ar sut y gellir datblygu dyheadau’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru i ddwyn ffrwyth yn nhermau creu swyddi ac incwm." Mae gwaith a wneir gan Canolfan Adnoddau Naturiol Cymru wedi amlygu pwysigrwydd twristiaeth ar gyfer datblygu cynaliadwy, a’r “Asesiad Ecosystem Cenedlaethol” i Gymru (a gydlynir gan Ganolfan Ymchwil i’r Amgylchedd Cymru) ac y mae hefyd wedi adnabod twristiaeth fel “gwasanaeth ecosystem diwylliannol” hanfodol i Gymru.
Fodd bynnag, mae arbenigedd twristiaeth gyfrifol yn sector addysg uwch Cymru wedi’i gyfyngu ac mae wedi’i wasgaru’n eang. Bydd Grŵp Twristiaeth Gyfrifol Cymru felly’n ceisio ymwneud â phartneriaid ar draws Gymru, i greu ysgol o arbenigedd gan gyfuno amryfal sgiliau o ystod o sefydliadau, er mwyn cynnig gwasanaethau hyfforddi, ymchwil ac ymgynghori o safon fyd-eang, yng Nghymru ac yn rhyngwladol.