Gweithgarwch Grŵp Twristiaeth Gyfrifol Cymru
Mae Grŵp Twristiaeth Gyfrifol Cymru wrthi’n datblygu’r syniadau a’r mentrau canlynol:
- Sgwrs genedlaethol ar y cwestiwn: Beth yw pwrpas twristiaeth yng Nghymru?
- Twristiaeth gynaliadwy mewn parciau cenedlaethol ac ardaloedd gwarchodedig eraill
- Gweithio gydag Ysgol Busnes Bangor ar elfen dwristiaeth ar gyfer y radd MBA newydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol
- Symposiwm ar “Dwristiaeth Geltaidd” i academyddion ac eraill sydd â diddordeb mewn sut mae twristiaeth yn ymwneud â diwylliant a threftadaeth ac yn cyfrannu at hynny
- Symposiwm rhyngwladol lefel uchel ar Dwristiaeth a Bywoliaeth, i’w gynnal yn Beijing, Tsieina
Adeiladu ar gryfderau a phrofiad ymchwil arbenigol ym Mangor a sefydliadau eraill yng Nghymru, i ddatblygu rhaglen o ymchwil a symposia sy’n ymdrin â’r cwestiwn: Sut fyddai Twristiaeth Gyfrifol yn Antarctica yn edrych?
Os oes gennych chi syniadau eraill, neu’r hoffech fod yn rhan o’r mentrau hyn, cysylltwch â ni: e.m.young@bangor.ac.uk