UWB Crest

Croeso

Mae Grŵp Twristiaeth Gyfrifol Cymru yn bartneriaeth anffurfiol o staff ac Aelodau Cyswllt Canolfan Adnoddau Naturiol Cymru ym Mhrifysgol Bangor yng ngogledd Cymru.

Amcan cyffredinol y Grŵp yw datblygu ymwneud rhwng nifer o fudd-ddeiliaid a dealltwriaeth o gyfraniad twristiaeth i economi, cymdeithas, diwylliant ac amgylchedd Cymru, a thrwy ymchwil, hyfforddiant ac estyn allan i’r gymuned, gwella’n gallu i reoli twristiaeth yn fwy cynaliadwy yng Nghymru. Yr her yw cyflawni prif amcan twristiaeth Gynaliadwy h.y.  gwneud Cymru’n well lle i bobl fyw ynddo ac ymweld ag ef - yn y drefn honno.

Lle mae yna arbenigedd yng Nghymru sy’n berthnasol yn rhyngwladol, bydd y Grŵp yn ceisio defnyddio’r gallu hwnnw i ymdrin â’r her twristiaeth a chynaliadwyedd yn ehangach. Mewn proses ddwy ffordd, mae gan Gymru lawer i’w ddysgu o arfer gorau rhyngwladol wrth ddefnyddio twristiaeth ar gyfer datblygu cynaliadwy, a chyfrannu at hynny hefyd.