UWB Crest

Newyddion & Digwyddiadau

Grŵp Twristiaeth Gyfrifol Cymru Seminar Gyntaf
4 Tachwedd 2011 Bangor

Gosod y cefndir – lle’r ydym ni gyda datblygu cynaliadwy
Dr Einir Young (Cyd-Gyfarwyddwr, Canolfan Adnoddau Naturiol Cymru)

Twristiaeth a Datblygu Cynaliadwy: y safbwynt o Gymru
Peter Davis (Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru)

Cymryd Cyfrifoldeb dros Dwristiaeth: Datblygiadau yn Ne Affrica a Cape Town
Heidi Keyser (ICRT South Africa a Edge Consulting)

Grŵp Twristiaeth Gyfrifol Cymru - adroddiad
Athro Harold Goodwin

Peter Davies yw Comisiynydd cyntaf Cymru ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy, gan roi cyngor annibynnol i Lywodraeth Cymru. Fe’i penodwyd i’r swyddogaeth yma yn Ebrill 2011. Penodwyd Peter Davies hefyd fel cadeirydd annibynnol Comisiwn Newid Hinsawdd Cymru yn 2010. Mae cefndir gyrfa Peter ym maes cyfrifoldeb corfforaethol yn gweithio i Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, yr Adran Masnach a Diwydiant a Busnes yn y Gymuned.

Mae Heidi Keyser wedi ymwneud yn helaeth â datblygu strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy De Affrica sydd gyda’r orau yn y byd, a gweithredu’r strategaeth honno. Mae wedi gweithio i’r sefydliad marchnata twristiaeth cenedlaethol, wedi darlithio ym Mhrifysgol Technoleg Cape Peninsula ac wedi gweithio i KPMG cyn sefydlu ‘EDGE Tourism Solutions’ a’r ganolfan gysylltiedig, ‘International Centre for Responsible Tourism’ yn Cape Town. Mae Heidi wedi bod yn flaenllaw wrth ddatblygu Twristiaeth Gynaliadwy yn Ne Affrica am y ddeng mlynedd ddiwethaf. Mae ei llyfr Oxford University Press ar ‘Tourism Development’ ar ei ail argraffiad.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â: Dr Einir Young. E-bost: e.m.young@bangor.ac.uk
ffôn: 01248 383709