UWB Crest

Partneriaid a Budd-ddeiliaid

Partneriaid a Budd-ddeiliaid Grŵp Twristiaeth Gyfrifol Cymru

Mae Grŵp Twristiaeth Gyfrifol Cymru yn bartneriaeth anffurfiol o staff ac Aelodau Cyswllt Canolfan Adnoddau Naturiol Cymru ym Mhrifysgol Bangor, ac mae’n gysylltiedig â’r ‘International Centre for Responsible Tourism’ yn Leeds. Nod Grŵp Twristiaeth Gyfrifol Cymru yw ysgogi a sbarduno ymchwil a hyfforddiant ar dwristiaeth gynaliadwy yng Nghymru, a chymryd rhan mewn trafodaethau rhyngwladol ynghylch sut gall twristiaeth gyfrannu orau at ddatblygu cynaliadwy.

Rydym am edrych ar sut gall Cymru ddefnyddio twristiaeth er budd ei chymunedau a’i hamgylchedd. Mae’r Grŵp yn croesawu cyfraniad ymarferwyr a phobl eraill sydd â diddordeb o’r sector twristiaeth, llywodraeth ganolog a lleol, parciau cenedlaethol, ymgynghorwyr, cyrff treftadaeth a chadwraeth, cymunedau lleol, y sector addysg a’r byd academaidd.

Dr Einir Young

Pennaeth Datblygu Cynaliadwy, Canolfan Adnoddau Naturiol Cymru. Arbenigwr mewn datblygu cynaliadwy a rheolaeth amgylcheddol i fusnes, yn cynnwys twristiaeth a hamdden.

Yr Athro Harold Goodwin

Mae’r Athro Harold Goodwin yn Gyfarwyddwr yr ‘International Centre for Responsible Tourism’, ac yn cyd-gadeirio’r cynadleddau blynyddol ‘International Responsible Tourism in Destinations’.

Mae’n cyhoeddi, yn addysgu ac yn cynghori ar Dwristiaeth Gyfrifol, a thwristiaeth a datblygu economaidd lleol. Mae Harold yn Athro ar Ymweliad ym Mhrifysgol Bangor ac yn Athro Twristiaeth Gyfrifol ym Mhrifysgol Fetropolitan Leeds, lle mae’n dysgu ar yr MSc mewn Rheoli Twristiaeth Gyfrifol ac yn goruchwylio ac ymchwilio.

Drafftiodd Harold y Datganiad Cape Town a chyd-gadeiriodd y gynhadledd yn 2002. Mae’n cynghori ABTA, y Bartneriaeth Twristiaeth Ryngwladol ac UNEP. Cyhoeddwyd ei lyfr ar ‘Taking Responsibility for Tourism’ gan Goodfellow ym Mai 2011.

Dr Gareth Griffiths

Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-radd (Busnes a Rheolaeth) yn ysgol Busnes Bangor. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys Systemau Gwybodaeth strategol, E-Fusnes ac E-Farchnata. Mae Gareth yn Gyfarwyddwr y rhaglen MBA Rheolaeth Amgylcheddol ym Mangor, ac yn gyd-arweinydd y project INTERREG yr Undeb Ewropeaidd, ‘Green Innovation and Future Technology’.

Arwel Jones

Ymgynghorydd datblygu rhanbarthol sy’n arbenigo mewn gwneud y gorau o adnoddau naturiol, adeiledig a diwylliannol. Mae’n Ddarlithydd Cysylltiol, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, Prifysgol Bangor, gan ddarlithio ar y BSc/BA mewn Rheolaeth Treftadaeth, Cynllunio Twristiaeth, Teithio a Thwristiaeth, Gwyliau a Digwyddiadau a’r MSc mewn Rheolaeth Cefn Gwlad.

Dr Shaun Russell

Cyfarwyddwr, Canolfan Ymchwil i’r Amgylchedd Cymru, Bangor. Mae Dr Russell wedi cynnal llawer o sesiynau hyfforddi ac ymgynghorol o amgylch y byd, ym meysydd bioamrywiaeth, cadwraeth a rheoli ardaloedd gwarchodedig, yn cynnwys datblygu twristiaeth.

Charlie Falzon

Aelod Cyswllt Proffesiynol, Aelod a Phartneriaeth Hyfforddiant Cefn Gwlad, Comisiwn IUCN y Byd ar Ardaloedd Gwarchodedig. Mae Charlie wedi cynnal llawer o sesiynau hyfforddi ac ymgynghorol ym maes cynllunio a rheoli twristiaeth ar gyfer ardaloedd gwarchodedig o gwmpas y byd.

  Glyn Alban Roberts

Cyfarwyddwr, ‘Asia Study Links’ a chyn-Gyfarwyddwr yr Awdurdod Twristiaeth Brydeinig yn America Ladin.
Ymgynghorydd rhyngwladol mewn hyfforddi a chynllunio ar gyfer datblygu twristiaeth.

Nick Stewart

Mae Nick Stewart yn Swyddog Twristiaeth Gynaliadwy ar hyn o bryd ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Er 2009 mae wedi bod yn gweithio ar broject trawsnewidiol 3 blynedd yr Undeb Ewropeaidd sy’n ceisio defnyddio hunaniaeth ddiwylliannol ar gyfer datblygu economaidd.

Rhwng 2012 a 2015 bydd Nick yn parhau yn ei swyddogaeth yng Nghymru, ond yn gweithio ar broject newydd sy’n canolbwyntio ar dwristiaeth a arweinir gan y gymuned ac adeiladu cysylltiadau rhwng y sector preifat a chymunedau lle gall y llywodraeth, cymunedau lleol a busnes gydweithio ar fentrau ymarferol yn y gyrchfan.

Mae Nick yn fyfyriwr rhan-amser ar yr MSc mewn Rheoli Twristiaeth Gyfrifol, gyda diddordeb arbennig mewn twristiaeth a datblygu economaidd lleol a marchnata cymdeithasol / dulliau cyfathrebu cynaliadwy i hybu newid mewn ymddygiad. Mae ganddo radd gyntaf hefyd mewn Gwyddor yr Amgylchedd a phrofiad o ddatblygu cynnyrch yn y diwydiant teithio antur.